Hero Banner

Amlosgfa a thiroedd coffa mewn lleoliad delfrydol ac annibynol sy’n darparu gwasanaeth personal ac unigol i deuluoedd mewn profedigaeth.

Cwrdd Ag Anghenion Heddiw

Cafodd Castleton Park Ltd ei ffurfio fel y gallai teuluoedd lleol sydd wedi dioddef profedigaeth gael amlosgfa eu hunain, i fodloni disgwyliadau’r oes sydd ohoni, bod yn hygyrch ac yn rhydd o'r tagfeydd a'r pwysau sy'n amharu ar amlosgfeydd presennol.

Rydym am greu lle hardd, wedi'i ddylunio’n sensitif mewn amgylchedd naturiol, gan gynnig rhywle heddychlon a phersonol ar gyfer pob angladd.

Mae amlosgfeydd newydd wedi’u hadeiladu i godi safonau gofal ac mae ein cynnig yn Heol Pen-y-lan yn addo darparu rhywbeth tebyg ar gyfer yr ochr hon in Gasnewydd a dwyrain Caerdydd. Wedi’i osod mewn powlen naturiol, yn rhydd o olygfeydd cyfagos ac wedi’i gyfoethogi a haenau o blannu, bydd yn lleoliad perffaith.

 

Y newyddion diweddaraf

Cais wedi'i Gyflwyno - Datblygu amlosgfa newydd, mynedfa newydd a maes parcio a pharcdir coffa. Tir i'r gogledd-orllewin o Park Farm, Heol Penylan, Basaleg, Casnewydd, De Cymru. Read More...

Rydym yn cynnig ffordd newydd a mwy goleuedig i gofio a dathlu bywyd person. Lle i oedi a chofio, dathlu a galaru, yn y lleoliadau mwyaf cysurus.

Yr anghen am amlosfa newydd

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i deuluoedd lleol sydd wedi dioddef profedigaeth deithio i Amlosgfa Draenen Pen-y-graig (Thornhill) neu ymhellach o bosibl, i'r Coed Duon, Gwent neu Langstone. Mae hyn fel arfer yn golygu taith o tua 35 munud neu fwy ar gyfer yr orymdaith angladdol, sy’n ormod o amser o'i gymharu â rhannau eraill o’r wlad, gan ychwanegu gofid a phryder pellach ar y cyfnodau anoddaf.

Mae'r amlosgfa agosaf, Thornhill, yn rhy brysur, gan gynnal llawer mwy o amlosgiadau na’r hyn a fwriadwyd pan gafodd ei chynllunio’n wreiddiol. Dros y 5 mlynedd diwethaf mae wedi cynnal 2842 o amlosgiadau bob blwyddyn ar gyfartaledd, fel arfer 11 y dydd, gyda chladdedigaethau hefyd yn digwydd yn ei mynwent gyfagos. Nid yw'n syndod bod Draenen Pen-y-graig yn un o'r amlosgfeydd prysuraf yn y wlad ac mae'n anarferol i ddinasoedd o’r maint yma gael dim ond un amlosgfa.

Cafodd gofod o fewn yr amlosgfa ei droi'n ail gapel i leddfu rhywfaint ar y pwysau ond mae'n llawer llai ac yn gweithredu ochr yn ochr â'r un presennol. Mae galarwyr yn aml yn cwyno eu bod yn teimlo eu bod ar felt symudol, a gallant fod yn ansicr a ydynt yn mynychu’r angladd cywir.

Mae oedi'n gyffredin hefyd gyda theuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth yn aml yn gorfod aros am 4 wythnos am wasanaeth neu o bosibl gorfod derbyn amser yn y capel llai. Gall yr oedi hwn fod hyd yn hwy fyth yn y gaeaf.

Mae hyn i gyd yn deillio o’r ffaith bod angen i amlosgfa Draenen Pen-y-graig ofalu am fwy o angladdau nag y gall ymdopi â nhw. Nid oes unrhyw ddewisiadau amgen hyfyw chwaith, gyda'r dewisiadau nesaf ymhellach i ffwrdd yng Ngwent, y Coed Duon neu yr ochr arall i Gasnewydd. Mae'r ddau gyntaf hefyd yn brysur yn cynnal tua 1600 o amlosgiadau yr un, mewn un capel, sy’n fwy na’r safonau gofal a gydnabyddir yn genedlaethol.

Dim ond cynyddu a wnaiff y pwysau dros yr 20 mlynedd nesaf yn sgil y cynnydd parhaus mewn marwolaethau, a fydd yn 15% ar gyfer ardaloedd Caerdydd, Casnewydd a Chaerffili yn ôl rhagolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Byddai amlosgfa newydd, wedi’i chynllunio i wasanaethu'r ardal hon o'r diwedd yn caniatáu i deuluoedd gael gwasanaeth personol, urddasol gydag isafswm o awr yn cael ei ganiatáu ar gyfer pob gwasanaeth. Yn gyffredinol, disgwylir i'r gwasanaeth newydd ymgymryd â thua 1000 o amlosgiadau y flwyddyn, sef pedwar y dydd ar gyfartaledd, gan ddarparu lleoliad llawer tawelach a heddychlon. Byddai amlosgfa Draenen Pen-y-graig hefyd yn elwa o lefel fwy hylaw o alw gyda’r posibilrwydd y gallai teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth gael lleoliad gyda llai o dagfeydd a mwy o amser ar gyfer eu hanghenion eu hunain.

Safle a ddewiswyd yn ofalus

Mae’n rhaid lleoli unrhyw amlosgfa Newydd rhwng Caerdydd a Chasnewydd i leddfu’r pwysau ar cyfleusterau presennol a darparu dewis mwy hygyrch. Rhaid cymryd gofal hefyd I osgoi’r dynodiadau mwyaf sensitive megis Llain Las neu ardaloedd o risg uchel o lifogydd neu sensitifrwyddd ecolegol.

Mae cyfyngiadau unigryw yn berthnasol i leoli amlosgfa, a’r mwyaf nodedig yw bod Adran 5 o Ddeddf Amlosgi 1902 yn nodi: Ni fydd unrhyw amlosgfa yn cael ei hadeiladu'n agosach na 200 llath (182 metr) at unrhyw dŷ annedd, ac eithrio gyda chydsyniad ysgrifenedig y perchennog, lesddeiliad a meddiannydd tŷ o'r fath, nac o fewn 50 llath i unrhyw briffordd gyhoeddus.

Mae'r rheol 200 llath i bob pwrpas yn diystyru ardaloedd trefol ac yn gorfodi amlosgfeydd newydd i gael eu lleoli ar gyrion trefi, yn agos at ganolfannau poblogaeth.

Mae'r safle ar Heol Penylan yn bodloni'r holl feini prawf hyn ac yn elwa’n arbennig o fod mewn basn naturiol hunangynhwysol ble y gall y datblygiad ymdoddi’n ddi-stŵr yn erbyn cefnlen o goetir. Ni fydd unrhyw adeiladau cyfagos â golygfeydd o’r amlosgfa, gan ganiatáu i angladdau gael eu cynnal yn breifat, er budd galarwyr a thrigolion lleol. Bydd pob angladd yn cyrraedd ar yr A48, gyda’r addewid i ledu Coal Pit Lane i ganiatáu i draffig lifo’n fwy didrafferth. Mae'r safle arfaethedig yn benllanw 20 mlynedd o chwilio, lle y cymerwyd gofal i osgoi ardaloedd mwy sensitif fel y Llain Las neu mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd neu ardaloedd o sensitifrwydd ecolegol.

Y cynllun

Credwn ein bod wedi dod o hyd i le perffaith in hadeiliad di-nod yndoddi i’r dirwedd. Un llawr yw’r datblygiad, tua 500m 2 o ran maint, wedi’i osod o fewn basn naturiol gyda choetir sefydledig yn gefndir iddo. Ni ddylau fod unrhyw olygfeydd ymwithiol a bydd yr adeiliad syml yn gweddu i’r cymeriad lleol, gyda’r defnydd o garreg naturiol, rendr wedi’i baentio a tho llechen ar oleddf. Bydd yr adeilliad hefyd yn cael ei guddio ar bob ochr gyda choed, gwrychoedd o wal fyw werdd. Dylai hyn sicrhau ei fod yn ymdoddi i’r dirweddd bresennol gan ddangos parch tuag at ei safle yng nghefn gwlad.

Prif ran yr adeiliad yw ystafell seremoni, gyda 135 o seddi y gellir eu haddasu at defnydd seciwlar ac amlffydd; gyda ystafell aros; toiledau cyhoeddus hygyrch; swyddfa fach gydag ystafell gyfarfod i’r teulu; ac amlosgfa. Bydd 111 o leodd parcio, gan gynnwys mannau gwefru trydan, 8 lle parcio anabl, gyda’r cynllun yn ymwithio i’r llethr ac wedi’i i amgylchynu gan blanigion er mwyn cyfungu ar y hyn sydd i’w weld.

Y pwyslas yn eich cynlliau yw transnewid y cae amaethyddol presennol yn lleoliad naturiol hardd ar gyfer angladdau, wedi’i amgylchynu a choed, planhigion, blodau y gwrychoedd ychwanegol.

Dim ond 10% o’r safle sydd wedi’i gynllio i gael ei ddatblygu, gyda’r gweddill yn cael ei adel fel tirwedd werdd i sicrhau ei fod yn lle o hyddychlon ac yn lle i gofio anwyliaid, heb y pwysau sy’n gysylltiedig ag amlosgfeydd hanesyddol goriawn.

Yr Amgylchedd

Carbon Niwtral - Byddai'r amlosgfa’n cynnwys uwch offer hidlo a lleihau allyriadau, gan ei gwneud yn "lân i’r aer", yn ddi-fwg a heb unrhyw arogleuon. Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, bydd yr amlosgfa yn un o'r cyfleusterau glanaf yn y DU ac yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio cyfleuster i leihau NOx (ocsid nitraidd).

Bydd y cynllun yn caniatáu i'r gwres o'r broses amlosgi gael ei ddefnyddio i gynhesu'r adeilad. Yn y pen draw, bydd y gwasanaeth newydd yn garbon niwtral.

Bydd y tir hefyd yn cael ei drawsnewid o gae a gaiff ei ffermio’n ddwys, sydd o werth ecolegol isel, i barcdir mwy naturiol sy’n cynnig digonedd o gynefinoedd cyfoethog i fywyd gwyllt lleol. Cynhaliwyd arolwg ecolegol llawn sy'n cadarnhau y bydd ein cynlluniau'n gwella gwerth ecolegol y safle yn fawr. Y gwir amdani yw bod pobl eisiau cynnal angladdau mewn lleoliad hardd, naturiol.

Deer in Woods

Mynediad a Phriffyrdd

Bydd mynedfa newydd yn cael ei chreu oddi ar Penylan Road a fydd yn bodloni’r holl safonau priffyrdd.

Bydd Coal Pit Lane hefyd yn cael ei lledu i ganiatáu traffig dwy ffordd a ddylai fod o fudd i drigolion lleol yn ogystal â'r rhai sy'n mynd i angladd.

Mae bron pob angladd yn digwydd rhwng 10:30am a 3:30pm. Mae hyn y tu allan i oriau brig o ran traffig, ac felly ni fyddai traffig yr amlosgfa’n gwrthdaro â thraffig oriau brig nac yn ychwanegu ato.

Byddai traffig i'r amlosgfa yn ysgafn beth bynnag, gan y rhagwelir y bydd tua 1000 o angladdau yn cael eu cynnal bob blwyddyn, wedi i’r safle gael ei sefydlu'n llawn, sef cyfartaledd o bedwar angladd y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener). Gydag 20 car yn dod i bob angladd fel arfer, byddai hyn yn golygu bod 80 o geir, ar gyfartaledd, yn ymweld â'r safle bob dydd.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i'r cerbydau sy'n gwneud y teithiau hyn deithio i Amlosgfa Draenen Pen-y-graig neu ymhellach i ffwrdd, ac felly bydd gostyngiad cyffredinol mewn traffig ar y rhwydwaith ffyrdd ehangach.

Arddangosfa Gyhoeddus

Cynhelir arddangosfa gyhoeddus ddydd Iau 28 Medi rhwng 12.30 a 7.00pm yn The Beefeater Bar sydd wedi'i gysylltu â Gwesty Premier Dwyrain Caerdydd ar yr A48 yng Nghas-bach. Dewch draw i gael golwg fanylach ar ein cynigion, i holi unrhyw gwestiynau, ac i ddweud eich barn.

Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch y ddogfen Ymgynghori isod.


Mae eich sylwadau'n bwysig

Byddem yn gwerthfawrogi eich sylwadau ar ein cynnig cyn i ni gyflwyno'r cais cynllunio. Byddwch yn gallu gwneud hyn ar ein gwefan gan ddefnyddio'r ffurflen gyferbyn neu yn ein harddangosfa.

Castleton Park Limited, Harbour Key,
Midway House, Staverton Park,
Staverton, GL51 6TQ

E-bost: info@castleton-park.co.uk